Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

rAdda

Fel artistiaid sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'n bywydau ym Mangor a'r cyffiniau, rydym yn defnyddio'r afon anweledig hon fel persbectif newydd i edrych eto ar lefydd cyfarwydd. Wrth ddilyn cwrs afon Adda, a threulio amser yn sylwi arni mewn manylder, down wyneb yn wyneb â themâu megis allgau a mynediad, preifateiddio mannau cyhoeddus, gwleidyddiaeth llafur modern, y berthynas rhwng y dref a'r brifysgol, cyfosodiad datblygiadau mawr a digartrefedd, a chydfodolaeth pobl a bywyd gwyllt trefol.

Drwy weithio mewn gwahanol gyfryngau, rydym yn mynd ar drywydd yr afon - gan olrhain ei llwybr â llygad a chlust, a thrwy ymchwil, ymgynghori a dychymyg - o'i tharddiad, o dan gylchfan Tesco, hyd yr aber yn Harbwr Bangor. Rydym hefyd eisiau casglu meddyliau, atgofion a dychymyg pobl sydd wedi byw a gweithio ar lannau afon Adda, a cheisio adlewyrchu amrywiaeth y lleisiau a'r ieithoedd sydd i'w clywed ym Mangor heddiw.

Mae arnom eisiau ymateb yn greadigol i agweddau gwahanol ar yr ecoleg drefol y down ar eu traws wrth inni ddilyn cwrs anweledig yr afon trwy ganol y ddinas. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu, adfywio, esgeulustod, dirywiad, diwydiant, bywyd cymunedol, gwaith a hamdden, eglwysi gwag ac ymlediad manwerthu, strwythurau dinesig a masnachol, gofodau diwylliannol newydd, y penodol a'r cyffredinol, patrymau ac ailadrodd.

Gobeithiwn y bydd y prosiect yn ysgogi ymwybyddiaeth o'r cyfuniad sydd o rymoedd naturiol a strwythurau o wneuthuriad dyn sydd yn ffurfio'r ddinaswedd, gan annog perthynas weithredol a sylwgar gydag amgylchedd y ddinas. Drwy ganolbwyntio ar rywbeth anweladwy, rydym hefyd yn gobeithio tanio dychymyg pobl, a gwneud cyswllt â hanes Bangor a'i dyfodol.
Bydd y project yn cynnwys:

  • casglu deunydd ysgrifenedig, gweledol a sain
  • cyfweld â phobl leol
  • cyfleoedd i bobl ymateb i lefydd ar hyd llwybr afon Adda
  • taith gerdded gyda'r cyhoedd
  • gweithdai a thrafodaethau rhyngweithiol
  • perfformiadau amlgyfrwng


Site footer