Pobl rAdda
Arweinwyr y Prosiect:
Mae Zoë Skoulding yn fardd a pherfformiwr sydd â diddordeb penodol mewn sŵn a gofod trefol. Bu ei diddordeb yn afon Adda yn ysgogiad iddi ymchwilio i afon goll arall, sef y Bièvre ym Mharis, sef testun ei chyhoeddiad diweddaraf. Hi oedd yn arwain prosiect barddoniaeth a chyfieithu cydweithredol Metropoetica 2009-11 ac mae ei gwaith beirniadol yn ymchwilio i sut y mae menywod wedi ysgrifennu am ddinasoedd. Mae hi wedi byw ym Mangor neu yn y cyffiniau ers 1991 ac mae yn Ddarllenydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor.
Cafodd Ben Stammers ei fagu ym Mangor ac mae'n artist gweledol ac yn ffotograffydd. Mae hefyd yn gweithio ym maes addysg bywyd gwyllt. Mae wedi arddangos ei waith ac wedi perfformio ledled Cymru a thu hwnt, ac mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gydag arlunwyr, beirdd, dawnswyr a cherddorion eraill. Mae ganddo hanes o wneud gwaith ar thema afonydd, er, hyd yma, fod yr afonydd hynny'n rhai y gallai eu gweld a rhoi ei draed ynddynt...
Ymgynghorydd sain:
Mae Alan Holmes wedi chwarae rôl ganolog ym mywyd cerddorol Bangor ers y 1970au fel aelod o nifer fawr o grwpiau, yn enwedig y Fflaps, Ectogram ac yn fwyaf diweddar Spectralate. Bu'n gweithio am sawl blwyddyn yn siop Recordiau'r Cob ym Mangor, ac mae wedi bod ynghlwm â llawer o berfformiadau a phrosiectau cydweithredol rhyngwladol a oedd yn cyfuno seinwedd a cherddoriaeth arbrofol.
Awdur gwadd:
Mae Alys Conran yn nofelydd ac yn ddarlithydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor. Bydd ei nofel Pigeon yn cael ei chyhoeddi gan Parthian yn 2016.