Croeso
Mae afon Adda wedi ei chuddio'n llwyr. Mae wedi ei sianelu ac mae'n llifo trwy Fangor, o dan yr wyneb heb i bobl fod yn ymwybodol ohoni o ddydd i ddydd, gan lifo dan groen y ddinas heb i neb sylwi. Pan ddaw i'r wyneb, dim ond brith gof sydd gan bobl ohoni, rhyw fwgan llifogydd, rhyw sisial dan balmentydd, rhyw grac mewn wal, rhyw hanner chwedl.
Ben Stammers and Zoë Skoulding