Afonydd Cudd o A i B
Zoë Skoulding
Mae cysylltiadau syfrdanol rhwng hanes dwy afon golledig sy'n llifo trwy ddwy ddinas wahanol iawn, sef afon Adda ym Mangor ac afon Bièvre, afon anhysbys a lifai ar un adeg trwy rannau diwydiannol Paris. Bu'r ddwy afon yn bwysig o ran datblygiad trefol y ddwy ddinas, ond cawsant eu sianelu a'u dargyfeirio yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif oherwydd llygredd a syniadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ynglŷn â hylendid.
Am dri mis yn 2014 bûm yn ymchwilio i olion llenyddol, ffisegol a chymdeithasol afon Bièvre. Ysgrifennais gasgliad o gerddi, sy'n dwyn y teitl Teint, sy'n cynnwys cyfieithiadau o ffynonellau llenyddol hanesyddol sy'n cyfeirio at yr afon, gan eu cyfosod â safbwynt cyfoes. Mae afon Bièvre yn cael ei phersonoli gan J.K. Huysmans fel menyw a arferai fod yn ddiniwed ond a gafodd ei llygru gan y ddinas, ond pa agweddau eraill mae modd eu cael at yr afon hon, a pha olion sydd ohoni yn yr amgylchedd trefol cyfoes?
Gan feddwl am y ddwy afon a'r bobl y mae, neu yr oedd, eu bywydau'n gysylltiedig â nhw, rydw i'n gobeithio dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddychmygu'r dinasoedd yma a'u dyfodol.
Cafodd y gwaith ymchwil cychwynnol ym Mharis ei gyllido gan breswyliaeth yn Les Recollets, a gynhaliwyd ar y cyd â'r Institut Français a Dinas Paris (Mairie de Paris). Mae Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Bangor wedi caniatáu i ni ddatblygu'r prosiect ymhellach.